| |
FFURFLENNI
A RAGNODWYD AT DDIBENION ADRAN 13(2) O DDEDDF TAI 1988
FFURFLEN Rhif 4D
Diwygiwyd
Adran 13(2) o Ddeddf Tai 1988 gan Orchymyn Diwygio Rheoliadol (Tenantiaethau
Cyfnodol Sicr)(Cynyddu Rhent) 2003
Hysbysiad Landlord
yn cynnig rhent newydd o dan Denantiaeth Gyfnodol Sicr o dir ac adeiladau
a leolir yng Nghymru.
NODYN: Mae'r hysbysiad hwn i fod yn iaith y cytundeb tenantiaeth gwreiddiol
onid yw'r landlord a'r tenant ill dau yn cytuno i ddefnyddio iaith wahanol.
Mae'r nodiadau dros y tudalen yn rhoi canllawiau i landlordiaid
a thenantiaid am yr hysbysiad hwn.
At:
Tenant(iaid)]
o:
[Cyfeiriad
y tir a'r adeiladau
sy'n ddarostyngedig
i'r denantiaeth]
Oddi wrth:
[Landlord(iaid)]
[Asiant y Landlord]*
*dileer fel y bo'n briodol
[Cyfeiriad ar gyfer
llythyru]
[Rhif ffôn cyswllt]
1. Mae'r hysbysiad yn effeithio ar faint
o rent y byddwch yn ei dalu. Darllenwch ef yn ofalus.
2. Mae'r Landlord yn cynnig rhent newydd
o £
fesul [wythnos] [mis]
[blwyddyn]*, yn lle'r rhent presennol o £
fesul [wythnos] [mis]
[blwyddyn]*.
*dileer fel y bo'n briodol
3. Dyddiad y cynnydd cyntaf yn y rhent ar
ôl 18 Ebrill 2003 yw
(gweler nodyn 10 dros
y tudalen).
4. Dyddiad dechrau talu'r rhent newydd fydd
(gweler nodiadau 13 - 17
dros y tudalen).
5. Gall fod taliadau penodol yn cael eu
cynnwys a'u nodi ar wahân yn eich rhent (gweler nodyn 11 dros y tudalen).
Swm y taliadau (os o gwbl) yw:
| Taliadau
|
Y
swm a gaiff ei gynnwys a'i nodi ar wahân (rhowch "dim" os yw'n briodol)
|
| |
Yn y rhent presennol |
Yn y rhent newydd
a gynigir |
| Treth y Cyngor |
£ |
£ |
Taliadau d
r |
£ |
£ |
| Taliadau gwasanaeth
sefydlog |
£ |
£ |
6. Os ydych yn derbyn y rhent newydd a gynigir,
dylech wneud trefniadau i'w dalu. Os nad ydych yn ei dderbyn, mae yna gamau
y dylech eu cymryd cyn y dyddiad dechrau ym mharagraff 4 uchod. Edrychwch
ar y nodiadau dros y tudalen i weld beth i'w wneud nesaf.
Llofnodwyd:
[Landlord(iaid)]
[Asiant y Landlord]*
*dileer fel y bo'n briodol
(gweler nodyn 12 dros y tudalen)
Dyddiad:
Darllenwch y nodiadau hyn yn ofalus.
Nodiadau cyfarwyddyd i denantiaid
Beth y mae'n rhaid i chi ei wneud yn awr
1. Mae'r hysbysiad hwn yn cynnig y dylech
dalu rhent newydd o'r dyddiad a bennir ym mharagraff 4 o'r hysbysiad.
Os ydych mewn unrhyw amheuaeth neu os oes angen cyngor arnoch am unrhyw
agwedd ar yr hysbysiad hwn, dylech ei drafod ar unwaith naill ai gyda'ch
landlord neu gyda'r ganolfan cynghori, canolfan cynghori ar dai, canolfan
y gyfraith neu gyfreithiwr.
2. Os ydych yn derbyn y rhent newydd a
gynigir, gwnewch drefniadau i'w dalu. Os ydych yn talu drwy orchymyn sefydlog
drwy eich banc, dylech ddweud wrthynt fod y swm wedi newid. Dylech hefyd
hysbysu eich swyddfa Budd-daliadau Tai, os ydych yn hawlio budd-dal. Os
ydych yn poeni na fyddwch efallai yn gallu talu eich rhent, dylech ofyn
am gyngor gan ganolfan cynghori neu ganolfan cynghori ar dai.
3. Os nad ydych yn derbyn y rhent
newydd a gynigir, ac nad ydych am drafod y peth gyda'ch landlord, gallwch
gyfeirio'r hysbysiad hwn at eich pwyllgor asesu rhent lleol. Rhaid
i chi wneud hyn cyn dyddiad dechrau talu'r rhent newydd a gynigir ym mharagraff
4 o'r hysbysiad. Dylech hysbysu eich landlord eich bod yn gwneud hyn,
neu fel arall gall dybio eich bod wedi cytuno i dalu'r rhent newydd a
gynigir.
4. I gyfeirio'r hysbysiad hwn at eich
pwyllgor asesu rhent lleol, rhaid i chi ddefnyddio'r ffurflen Cais
yn cyfeirio hysbysiad yn cynnig rhent newydd o dan Denantiaeth Gyfnodol
Sicr neu Feddiannaeth Amaethyddol Sicr at Bwyllgor Asesu Rhenti. Gellwch
gael ffurflen gan banel asesu rhenti, canolfan cynghori ar dai neu siop
llyfrau cyfreithiol (gellir cael y manylion mewn cyfeirlyfr ffôn).
5. Bydd y pwyllgor asesu rhenti yn ystyried
eich cais ac yn penderfynu beth ddylai'r mwyafswm rhent fod ar eich cartref.
Wrth osod rhent, rhaid i'r pwyllgor benderfynu pa rent y gallai Landlord
yn rhesymol ddisgwyl ei gael am yr eiddo pe bai'n cael ei osod ar y farchnad
agored o dan denantiaeth newydd ar yr un telerau. Caiff y pwyllgor felly
osod rhent sydd yn uwch, yn is neu'r un fath â'r rhent newydd a gynigir.
Nodiadau cyfarwyddyd i landlordiaid ar sut i gwblhau'r hysbysiad
6. Gallwch gwblhau'r hysbysiad hwn mewn
inc neu drefnu iddo gael ei argraffu.
7. Dylid defnyddio'r hysbysiad hwn wrth
gynnig rhent newydd o dan denantiaeth gyfnodol sicr (gan gynnwys tenantiaeth
gyfnodol fyrddaliol sicr) o dir ac adeiladau a leolir yng Nghymru.
Mae hysbysiad gwahanol (Ffurflen 4E - Hysbysiad Landlord
neu Drwyddedydd yn cynnig rhent newydd neu ffi drwydded o dan Feddiannaeth
Amaethyddol Sicr o dir ac adeiladau a leolir yng Nghymru) ar gyfer
cynnig rhent newydd neu ffi drwydded ar feddiannaeth amaethyddol sicr
o dir ac adeiladau a leolir yng Nghymru.
8. Peidiwch â defnyddio'r hysbysiad hwn
os yw'r cytundeb tenantiaeth yn cynnwys teler sy'n caniatáu cynyddu rhent,
neu os oes sail arall megis cytundeb ar wahân â'r tenant dros gynyddu'r
rhent. Mae angen i unrhyw ddarpariaeth y dibynnir arni fod yn rhwymol
ar y tenant. Dylid ceisio cyngor cyfreithiol os oes unrhyw amheuaeth ynghylch
hyn.
9. Bydd angen i chi ddefnyddio ffurflen
wahanol i gynnig cynnydd yn y rhent ar denantiaeth gyfnodol statudol (yr
eithriad cyntaf a grybwyllir yn nodyn 16) os ydych yn ceisio addasu'r
rhent yn unig oherwydd newid a gynigir yn y telerau o dan adran 6(2) o
Ddeddf Tai 1988. Ceisiwch gyngor cyfreithiol os ydych yn meddwl bod hyn
yn gymwys i chi. Gellwch gael y ffurflen â'r pennawd Hysbysiad yn cynnig
telerau gwahanol ar Denantiaeth Gyfnodol Statudol oddi wrth banel
asesu rhenti neu siop llyfrau cyfreithiol.
10. Onid yw'r denantiaeth yn un newydd,
neu onid yw un o'r eithriadau a grybwyllir yn nodyn 16 yn gymwys, rhaid
i chi fewnosod ym mharagraff 3 o'r hysbysiad y dyddiad cyntaf ar ôl 18
Ebrill 2003 pan gynyddwyd y rhent o dan y weithdrefn hysbysu statudol
hon. Y dyddiad hwnnw sy'n penderfynu'r dyddiad y gellwch ei nodi ym mharagraff
4 o'r hysbysiad. Ond gweler hefyd nodyn 15.
11. Dylech roi ym mhob un o'r ddau flwch
yn ail golofn a thrydedd golofn y tabl ym mharagraff 5 naill ai "Dim"
neu swm y taliad presennol neu'r swm a gynigir. Dim ond os nad yw'r tenant
yn talu treth y cyngor a'r ardrethi dwr yn uniongyrchol y dylech gofnodi'r
symiau hyn. Ni ddylech gofnodi taliadau gwasanaeth sefydlog sy'n daladwy
gan y tenant ond os yw'n unol â theler neu amod sy'n pennu bod y taliadau
hyn yn cael eu cynnwys yn y rhent ar y denantiaeth. Cofnodwch swm ar gyfer
taliadau gwasanaeth dim ond os yw'r tenant wedi cytuno i dalu swm sefydlog.
Peidiwch â chynnwys yn y tabl unrhyw daliadau gwasanaeth amrywiol,
h.y. tâl gwasanaeth yn ystyr adran 18 o Ddeddf Landlord a Thenant 1985,
lle mae'r cyfan neu ran o'r swm sy'n daladwy gan y tenant yn amrywio neu
lle gellir ei amrywio yn unol â chostau.
12. Rhaid i chi neu eich asiant (rhywun
sy'n gweithredu ar eich rhan) lofnodi a dyddio'r hysbysiad hwn. Os oes
landlordiaid ar y cyd, rhaid i bob landlord lofnodi onid yw un yn llofnodi
ar ran y gweddill gyda'u cytundeb. Does dim rhaid ysgrifennu'r llofnod
â llaw os yw'r ffurflen, er enghraifft, yn cael ei hargraffu neu os ydych
yn dymuno defnyddio llofnod laser neu lofnod awtomatig.
Pryd y caiff y rhent newydd a gynigir ddechrau
13. Rhaid i'r dyddiad ym mharagraff 4
o'r hysbysiad gydymffurfio â'r tri gofyniad yn adran 13(2) o Ddeddf Tai
1988, fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Diwygio Rheoliadol (Tenantiaethau
Cyfnodol Sicr) (Cynyddu Rhent) 2003.
14. Y gofyniad cyntaf, sy'n gymwys
ym mhob achos, yw bod yn rhaid rhoi isafswm cyfnod o hysbysiad
cyn y gall y rhent newydd a gynigir fod yn effeithiol. Dyma'r cyfnod:
- un mis ar gyfer tenantiaeth fisol
neu denantiaeth am gyfnod llai, er enghraifft fesul wythnos neu bythefnos;
- chwe mis ar gyfer tenantiaeth flynyddol;
- ym mhob achos arall, cyfnod cymesur
â hyd cyfnod y denantiaeth - er enghraifft, tri mis yn achos
tenantiaeth chwarterol.
15. Mae'r ail ofyniad yn gymwys
yn y rhan fwyaf o achosion (ond gweler nodyn 16 ar gyfer dau eithriad):
(a) rhaid i'r dyddiad
dechrau ar gyfer y rhent newydd a gynigir beidio â bod yn gynharach na
52 wythnos ar ôl y dyddiad pan gynyddwyd y rhent ddiwethaf gan ddefnyddio'r
weithdrefn hysbysu statudol hon neu, os yw'r denantiaeth yn un newydd,
y dyddiad pan ddechreuodd, oni bai
(b) y byddai hynny'n golygu y byddai dyddiad y cynnydd yn y rhent yn digwydd
wythnos neu fwy cyn pen blwydd y dyddiad ym mharagraff 3 o'r hysbysiad,
ac yn yr achos hwnnw rhaid i'r dyddiad dechrau beidio â bod yn gynharach
na 53 wythnos o'r dyddiad pan gynyddwyd y rhent ddiwethaf.
Mae hyn yn caniatáu
i'r cynnydd yn y rhent fod yn effeithiol ar ddiwrnod sefydlog bob blwyddyn
os yw cyfnod tenantiaeth yn llai na mis. Er enghraifft, gellid cynyddu'r
rhent ar denantiaeth wythnosol, dyweder, ar y dydd Llun cyntaf ym mis
Ebrill. Os yw cyfnod tenantiaeth yn fisol, chwarterol, chwe misol neu'n
flynyddol, gall cynnydd yn y rhent fod yn effeithiol ar ddyddiad sefydlog,
er enghraifft, 1 Ebrill.
16. Dyma'r ddau eithriad i'r ail ofyniad,
sy'n gymwys pan fydd tenantiaeth statudol wedi dilyn yn union ar ôl tenantiaeth
gynharach:
- pan oedd y denantiaeth wreiddiol
am gyfnod sefydlog (er enghraifft, 6 mis), ond ei bod yn parhau ar sail
gyfnodol (er enghraifft, misol) ar ôl i'r cyfnod ddod i ben; a
- pan ddaeth y denantiaeth i fodolaeth
ar farwolaeth y tenant blaenorol oedd â thenantiaeth reoliadol o dan Ddeddf
Rhenti 1977.
Yn yr achosion hyn caiff y Landlord gynnig rhent newydd ar unwaith. Er
hynny, rhaid dal i barchu'r gofyniad cyntaf a'r trydydd gofyniad y cyfeirir
atynt yn nodiadau 14 a 17.
17. Y trydydd gofyniad, sydd yn
gymwys ym mhob achos, yw fod yn rhaid i'r rhent newydd a gynigir
gychwyn ar ddechrau cyfnod y denantiaeth. Er enghraifft, os yw'r denantiaeth
yn un fisol, a'i bod wedi dechrau ar yr 20fed o'r mis, bydd y rhent yn
daladwy ar y diwrnod hwnnw o'r mis, a rhaid i rent newydd ddechrau bryd
hynny, ac nid ar unrhyw ddiwrnod arall o'r mis. Os yw'r denantiaeth yn
un wythnosol, a'i bod, er enghraifft, wedi dechrau ar ddydd Llun, rhaid
i'r rhent newydd ddechrau ar ddydd Llun.
|
|